Land management works have begun at Pembroke Port signalling the start of another important phase in the £60 million Pembroke Dock Marine project. Contractors, the Walters Group, have mobilised on site tasked with creating 17,000 sqm of laydown space by the end of 2024.

The new laydown space complements construction work being delivered by BAM Nuttall to create a new supersize slipway and new workboat pontoons, as well as onsite office facilities being constructed by R&M Williams. These new facilities and spaces are a key part in expanding Pembrokeshire’s proposition for the floating offshore wind and marine energy industries.

During the lifespan of the works, the Walters Group aims to create three full time jobs including an engineering apprenticeship, five work placements and one graduate placement, and they will be engaging with local schools to educate and inspire pupils about careers within the construction industry.

Jason Hester, Senior Project Manager at the Port of Milford Haven, said “It’s fantastic that Pembroke Dock Marine is making such significant leaps forward. Creating 17,000 sqm of laydown space means we’ll soon be able to handle much larger devices and vessels. We want to support the growing floating offshore wind industry and its supply chain so that companies can mature and benefit from our advantageous proximity to the Celtic Sea.” He added “Pembroke Dock Marine is a unique and significant opportunity for the region to play a key role in reaching Net Zero targets.”

Project Manager at the Walters Group, Gerrard Northey, commented “This is a brilliant opportunity for the Walters Group to engage with the Port of Milford Haven in providing a critical facility by means of the remediation works and laydown space for future innovative development of the Port. The Walters Group also brings with it a wealth of expertise and experience in the field of civil engineering which will assist the Port in achieving its end goals in making it a forerunner with environmental sustainability and marine works.”

Part of the £1.3 billion Swansea Bay City Deal, Pembroke Dock Marine will create a world-class centre for marine engineering and is set to generate around 1,800 highly skilled, year round jobs, as well as generating extensive opportunities for the local supply chain.

Councillor Paul Miller, Deputy Leader and Cabinet Member for Place, the Region and Climate Change, said “This announcement to develop capacity at Pembroke Port is further evidence of the building momentum behind the rapidly developing green energy industry in Pembrokeshire.” He added “It is vital to ensure we position Pembrokeshire and the South West Wales region at the heart of Wales’ renewable energy push and we will continue to invest to that end.”

Councillor Rob Stewart, Chairman of the Swansea Bay City Deal’s Joint Committee, said “We welcome the Walters Group onboard to work on the exciting developments happening at Pembroke Port which will regenerate the port area, as well as further supporting the proposition for FLOW in the Celtic Sea. The City Deal is making significant progress in the Pembroke Dock Marine project by creating local employment opportunities, infrastructure to support the blue-green economy and its ambition of creating a centre of excellence for renewable energy technologies in Pembrokeshire which will not only benefit the county, but the entire City Deal region and whole of Wales.”

Pembroke Dock Marine is funded by the UK Government and Welsh Government through the Swansea Bay City Deal, and through the public and private sectors. It is also part funded by the European Regional Development Fund through the Welsh Government.

-Ends-

Photo: (L-R) Jason Hester - Project Manager, Port of Milford Haven, Gavin Perry - Senior Quantity Surveyor, Walters Group and Wayne Scott - General Foreman, Walters Group

Notes to Editors:

Port of Milford Haven

The Port of Milford Haven is the UK’s top energy port and Wales’ busiest port handling around 20% of Britain’s seaborne trade in oil and gas.  It is widely recognised in the industry as the energy capital of the UK.

The Port, along with the cluster of energy-related businesses along the Waterway, is a key driver of economic activity in Pembrokeshire, attracting inward investment and supporting over 4,000 jobs.

The Port of Milford Haven also owns and operates Pembroke Port and Milford Dock.  Activities such as cargo handling, ferry operations, fish landing and cruise calls as well as a first class marina are spread across these two sites. 

One of the most prominent on the West Coast, the Port is in the heart of the Pembrokeshire Coast National Park, the only Coastal National Park in Great Britain. It is marked as a Special Area of Conservation (SAC) and has many areas designated as Sites of Special Scientific Interest (SSSI).

The Port of Milford Haven is a trust port – an independent, commercially run organisation that has statutory responsibilities governed by its Acts, to maintain and improve navigation and the provision of Port and Harbour services and facilities.  Additionally, the Port provides significant financial and in-kind support to a wide variety of local causes.  All profits are retained within the business to fund these objectives. 

For further information, visit www.mhpa.co.uk or contact:

Anna Malloy
Port of Milford Haven
01646 696100
anna.malloy@mhpa.co.uk 

 

Cyfleusterau newydd i gefnogi twf gwynt alltraeth arnofiol y Môr Celtaidd yn cymryd cam arall ymlaen

Mae gwaith rheoli tir wedi dechrau yn Noc Penfro gan nodi dechrau cyfnod pwysig arall ym mhrosiect gwerth £60 miliwn Ardal Forol Doc Penfro. Mae’r contractwyr, Walters Group, wedi symud i’r safle gyda’r dasg o greu gofod gosod a storio 17,000 metr sgwâr erbyn diwedd 2024.

Mae’r gofod gosod a storio yn cyd-fynd â’r gwaith adeiladu sy’n cael ei wneud gan BAM Nuttall i greu llithrfa enfawr newydd a phontynau cychod gweithio newydd, yn ogystal â chyfleusterau swyddfa ar safle sy’n cael eu hadeiladu gan R&M Williams. Mae’r cyfleusterau a’r gofodau newydd hyn yn rhan allweddol o ehangu cynnig Sir Benfro ar gyfer gwynt alltraeth arnofiol a diwydiannau ynni morol.

Yn ystod oes y gwaith, mae Walters Group yn gobeithio creu tair swydd lawn amser, gan gynnwys prentisiaeth beirianneg, pum lleoliad gwaith ac un lleoliad graddedig, a byddant yn ymgysylltu ag ysgolion lleol i addysgu ac ysbrydoli disgyblion am yrfaoedd o fewn y diwydiant adeiladu.

Meddai Jason Hester, Uwch Reolwr Prosiect Porthladd Aberdaugleddau: “Mae’n wych bod Ardal Forol Doc Penfro yn cymryd camau mor fawr ymlaen. Mae creu 17,000 metr sgwâr o ofod gosod a storio yn golygu y gallwn ymdopi â dyfeisiau a llongau llawer mwy yn fuan. Rydym ni am gefnogi’r diwydiant gwynt alltraeth arnofiol sy’n mynd o nerth i nerth a’i gadwyn gyflenwi er mwyn i gwmnïau allu aeddfedu ac elwa ar ein lleoliad sydd mor agos i’r Môr Celtaidd.” Ychwanegodd, “Mae Ardal Forol Doc Penfro yn gyfle unigryw ac arwyddocaol i’r rhanbarth wneud cyfraniad allweddol at gyrraedd targedau Sero Net.”

Meddai Rheolwr Prosiect Grŵp Walters, Gerrard Northey: “Dyma gyfle gwych i Walters Group gydweithio â Phorthladd Aberdaugleddau i greu cyfleuster pwysig drwy waith adfer a gofod gosod a storio ar gyfer datblygiad arloesol y Porthladd yn y dyfodol. Mae Walters Group hefyd yn dod â gwledd o arbenigedd a phrofiad ym maes peirianneg a fydd yn cynorthwyo’r Porthladd i gyflawni ei nodau yn y pen draw, sef bod yn geffyl blaen ym maes cynaliadwyedd amgylcheddol a gwaith morol.

Fel rhan o Fargen Ddinesig Bae Abertawe, bydd Ardal Forol Doc Penfro yn creu canolfan peirianneg forol gyda’r gorau yn y byd a dylai greu oddeutu 1,800 o swyddi medrus iawn gydol y flwyddyn, ynghyd â chreu cyfleoedd eang ar gyfer y gadwyn gyflenwi leol.

Meddai’r Cynghorydd Paul Miller, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet dros Le, y Rhanbarth a Newid Hinsawdd: “Mae’r cyhoeddiad hwn i ddatblygu capasiti yn Noc Penfro yn dystiolaeth bellach o’r momentwm adeiladu sydd wrth wraidd diwydiant ynni gwyrdd sy’n datblygu’n gyflym yn Sir Benfro.” Ychwanegodd, “Mae’n hanfodol sicrhau ein bod yn rhoi Sir Benfro a rhanbarth De Orllewin Cymru yn ganolog yn ymdrech ynni adnewyddadwy Cymru a byddwn yn dal ati i fuddsoddi i’r perwyl hwnnw.”

Meddai Rob Stewart, Cadeirydd Cydbwyllgor Bargen Ddinesig Bae Abertawe: “Rydym ni’n croesawu’r Walters Group i gydweithio â ni ar y datblygiadau cyffrous sy’n digwydd yn Noc Penfro a fydd yn adfywio ardal y porthladd, ynghyd â chefnogi ymhellach y cynnig dros wynt alltraeth arnofiol yn y Môr Celtaidd. Mae’r Fargen Ddinesig yn gwneud cynnydd pwysig ym mhrosiect Ardal Forol Doc Penfro drwy greu cyfleoedd cyflogaeth lleol, seilwaith i gefnogi’r economi las-wyrdd a’i uchelgais i greu canolfan ragoriaeth ar gyfer technolegau ynni adnewyddadwy yn Sir Benfro a fydd nid yn unig o fudd i’r sir, ond hefyd i holl ranbarth y Fargen Ddinesig ac i Gymru gyfan.”

Mae Ardal Forol Doc Penfro yn cael ei chyllido gan Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru drwy Fargen Ddinesig Bae Abertawe a drwy’r sectorau cyhoeddus a phreifat. Mae hefyd yn cael ei chyllido’n rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru.

-Diwedd-

Ffoto: (Ch-Dd) Jason Hester - Rheolwr Prosiect, Porthladd Aberdaugleddau, Gavin Perry - Uwch Syrfëwr Meintiau, Walters Group a Wayne Scott - Fforman Cyffredinol, Walters Group

Nodiadau i Olygyddion:

Porthladd Aberdaugleddau

Porthladd Aberdaugleddau yw prif borthladd ynni’r DU a phorthladd prysuraf Cymru ac mae’n trafod oddeutu 20% o fasnach olew a nwy Prydain a gludir ar y môr. Mae’n cael ei gydnabod yn eang yn y diwydiant fel prifddinas ynni’r DU.

Mae’r Porthladd, law yn llaw â’r clwstwr o fusnesau cysylltiedig ag ynni ar hyd y Ddyfrffordd, yn ysgogydd gweithgarwch economaidd allweddol yn Sir Benfro, gan ddenu mewnfuddsoddiad a chefnogi dros 4,000 o swyddi.

Mae Porthladd Aberdaugleddau hefyd yn berchen ar Borthladd Penfro a Doc Aberdaugleddau ac yn eu gweithredu. Mae gweithgareddau fel trafod cargo, gweithrediadau fferi, pysgota a glanio, cyrchfannau mordeithiau ynghyd â marina o’r radd flaenaf wedi’u gwasgaru ledled y ddau safle.

Mae’r Porthladd, sy’n un o’r amlycaf ar Arfordir y Gorllewin, wrth galon Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro, yr unig Barc Cenedlaethol Arfordirol ym Mhrydain. Mae’n Ardal Cadwraeth Arbennig ac mae yno lawer o ardaloedd sydd wedi eu dynodi’n Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig.

Mae Porthladd Aberdaugleddau yn borthladd ymddiriedolaeth - sef sefydliad annibynnol, a gynhelir yn fasnachol, sydd â chyfrifoldebau statudol sy’n cael eu llywodraethu gan ei Ddeddfau, i gynnal a gwella mordwyo a darpariaeth gwasanaethau a chyfleusterau’r Porthladd a’r Harbwr. Hefyd, mae’r Porthladd yn darparu cymorth ariannol ac mewn nwyddau sylweddol i ystod eang o achosion lleol. Mae’r holl elw yn cael ei gadw o fewn y busnes i gyllido’r amcanion hyn.

Am ragor o wybodaeth, ewch i www.mhpa.co.uk neu cysylltwch ag:

Anna Malloy
Porthladd Aberdaugleddau
01646 696100
anna.malloy@mhpa.co.uk