Tŷ Erebus

Office

Pembroke Dock

169m²

REF: EREBUS

Unavailable

Read in English

Fel rhan o brosiect Hwb Morol Doc Penfro, mae Tŷ Erebus yn un o bedwar rhandy rhestredig Gradd II sy’n cael ei adnewyddu’n ofod gwaith modern hyblyg. Bydd yr eiddo wedi’i adnewyddu ar gael yn gynnar yn 2023 ac yn ddelfrydol ar gyfer y diwydiant ynni adnewyddadwy.

Mae’r adeilad llawr isaf i’r gogledd o’r Awyrendy Gorllewinol yn 169m2 i gyd ac yn cael ei adnewyddu i gynnwys gofod swyddfa yn amrywio o 23m2 i 38m2, mynediad ar hyd ramp a pharcio.

Pwyntiau allweddol

  • Gwresogi
  • Gofod swyddfa
  • Parcio
  • Toiledau
  • Lleoliad cyfleus

Mae’r datblygiad newydd cyffrous hwn yn Noc Penfro yn rhan o’r bennod nesaf yn ei hanes morol ac wrth fod wedi’i leoli yma, bydd gan eich busnes fynediad at:

  • Gadwyn gyflenwi leol brofiadol ar y safle
  • Gweithlu dawnus lleol gyda sgiliau trosglwyddadwy o’r diwydiannau ynni
  • Sylfaen gynyddol o gwmnïau yn datblygu a phrofi dyfeisiau a rheoli prosiectau datblygu yn y diwydiannau Gwynt Alltraeth Arnofiol, Ynni Adnewyddadwy a Lleihau Carbon
  • Mynediad at y cei
  • Mannau storio mewnol ac allanol
  • Cysylltiadau trafnidiaeth da ar y ffordd a’r môr, gan gynnwys gwasanaeth llongau Irish Ferries ddwywaith y dydd i Iwerddon
  • Cymuned fusnes gefnogol a chydweithredol
  • Rheolwr Masnachol ymroddedig i weithio gyda chi wrth i’ch busnes ddatblygu
  • Arbenigedd tîm Porthladd Aberdaugleddau ar gael i gynnig arweiniad

I fod yn rhan o ailddatblygiad Tŷ Erebus, cysylltwch â Sharon Adams, y Rheolwr Masnachol, drwy gyflwyno ffurflen holi neu ffonio +44(0)1646 796152.


Mae datblygiad Rhandai’r Awyrendy’n rhan o brosiect Hwb Morol Doc Penfro sy’n cael ei gefnogi gan Fargen Ddinesig Bae Abertawe ac sy’n cael ei ariannu gan Lywodraeth y DU, Llywodraeth Cymru, y sector cyhoeddus a phreifat. Mae’n cael ei ariannu’n rhannol hefyd gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru.